Cyfarfodydd

P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor, a gan fod campfeydd dan do bellach wedi cael caniatâd i ailagor a bod y Dirprwy Weinidog wedi darparu gwybodaeth am y cyngor gwyddonol a ddefnyddir i lywio penderfyniadau, cytunwyd i gau’r deisebau.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â deiseb P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:

·         a all Llywodraeth Cymru nodi tystiolaeth sy'n dangos bod campfeydd a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill yn peri risg trosglwyddo penodol o ran Covid-19, a

·         pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i bwysigrwydd ymarfer corff i iechyd meddwl a lles pobl o ran eu penderfyniadau ynghylch agor cyfleusterau hamdden.