Cyfarfodydd

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 18)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

NDM7682 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor

Ymateb Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig)

Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig)

 

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NDM7682 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor

Ymateb Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig)

Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru

 

Papurau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawu’r Aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a wahoddwyd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

5.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad a Pholisi, Swyddfa Cymru.

 

5.3 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:

 

-        Darparu rhagor o wybodaeth am statws Gwynedd fel ardal categori 3 mewn perthynas â'r Gronfa Codi’r Gwastad.

-        Siarad â Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch rheolaeth Trysorlys Ei Mawrhydi o ran faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei drosglwyddo o’r ‘grant bloc’ i’r flwyddyn ariannol nesaf.

-        Archwilio honiadau Llywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas at y diben gyda Thrysorlys EM.

 

5.4 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau presennol a chyn-aelodau'r Pwyllgor Cyllid, ac i'r holl randdeiliaid a thystion, am eu cyfraniadau gwerthfawr dros gyfnod y Bumed Senedd.

 


Cyfarfod: 20/01/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 08/01/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Ymchwiliad i'r Fframwaith Cyllidol; a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Papurau ategol:

FIN(5)-01-21 P8 – Drafft llythyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.

 


Cyfarfod: 16/12/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Materion allweddol

Papurau ategol:

FIN(5)-25-20 P4 - Papur Materion Allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol.

 


Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Rôl a Chylchoedd Gwaith Sefydliadau Cyllidol Annibynnol – Cynulliad Gogledd Iwerddon

Supporting papers:

FIN(5)-24-20 P5 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a'r papur ymchwil cysylltiedig: Role and Remits of Independent Fiscal Institutions - 18 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a'r papur ymchwil cysylltiedig gan Gynulliad Gogledd Iwerddon.

 


Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 9

Rebecca Evans AS - y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Julian Revell – Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-24-20 P3 Llywodraeth Cymru - Papur tystiolaeth

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014, a gweithrediad y Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 23/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol: Papur ymgysylltu â dinasyddion

Papurau ategol:

FIN(5)-23-20 P6 – Papur ymgysylltu â dinasyddion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar ymgysylltu â dinasyddion.

 


Cyfarfod: 23/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Galluogi newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru - sesiwn briffio technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Andrew Hewitt, yr Is-adran Drethi: Strategaeth Polisi ac Ymgysylltu, Trysorlys Cymru

Laura Fox, yr Is-adran Drethi: Strategaeth Polisi ac Ymgysylltu, Trysorlys Cymru

Lynsey Edwards, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-23-20 P1 - Sleidiau cyflwyno

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth dechnoegol am alluogi newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru gan Andrew Hewillt, Strategaeth Drethi, Trysorlys Cymru;

Laura Fox, Strategaeth Drethi Trysorlys Cymru; a Lynsey Edwards, Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 8

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru

Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth, Awdurdod Cyllid Cymru

Sam Cairns, Prif Swyddog Strategaeth, Awdurdod Cyllid Cymru

 

Papur ategol:

Papur briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru; Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth Awdurdod Cyllid Cymru; a Sam Cairns, Swyddog Gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru ynghylch ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 7

David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid

 

Papurau ategol:

Papur briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol – Sesiwn dystiolaeth 6

Gareth Davies, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol - y Swyddfa Archwilio Genedlaethol 

 

Papurau ategol:

FIN(5)-21-20 P4 Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol - y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Davies, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol; Darren Stewart, Cyfarwyddwr, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol; Lee Summerfield, Cyfarwyddwr, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol; a Ben Rodin, Rheolwr Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol – Sesiwn dystiolaeth 5

Ruth Stanier, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth Cwsmeriaid a Llunio Trethi, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Jackie McGeehan, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Treth Incwm, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

 

Papurau ategol:

FIN(5)-21-20 P1 Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ruth Stanier, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth Cwsmeriaid a Dylunio Trethi, Cyllid a Thollau EM; a Jackie McGeehan, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Treth Incwm, Cyllid a Thollau EM ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol – Sesiwn dystiolaeth 4

Yr Athro Gerry Holtham, Athro Economeg Ranbarthol Hodge, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

 

Papurau ategol:

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Gerry Holtham, Athro Economi Ranbarthol Hodge, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a gweithredu’r Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 3

Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru 

Guto Ifan, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru 

 

Papurau ategol:

Papur briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.

 

 

 

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol - Sesiwn dystiolaeth 2

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-17-20 P1 - Archwilio Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol gan y tystion a ganlyn: Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Richard Harries, cyfarwyddwr archwilio, Archwilio Cymru; a Mark Jeffs, rheolwr archwilio, Archwilio Cymru.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol – Sesiwn dystiolaeth 1

Robert Chote, Cadeirydd, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

 

Papurau ategol:

Pecyn ymatebion i’r ymgynghoriad

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol

Papurau ategol:

FIN(5)-15-20 P4 – Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd o ran yr Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.