Cyfarfodydd

P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yn sgil yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am fanylion y meini prawf a ddefnyddiwyd wrth ystyried a ddylid cytuno i ymestyn y terfynau amser yn ymwneud ag ymgynghori neu ofynion cyflwyno yn y cam gwneud cais llawn ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:

·         roi cyflwyniad diweddaraf y deisebydd iddi;

·         ofyn iddi ystyried arfer ei phwerau i ymestyn yr amserlen ar gyfer ymgynghori os a phan fydd ymgynghoriad yn symud ymlaen i fod yn gais llawn; ac i

·         ofyn sut y byddai'r deisebydd yn gallu gwneud cais o'r fath ar yr adeg briodol.