Cyfarfodydd

P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu'r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud ynghylch y meini prawf cymhwystra ar gyfer cymorth, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd, ar y sail nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud mewn perthynas â’r amgylchiadau penodol y mae’r busnes hwn yn eu hwynebu.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Cyllid i roi sylwadau pellach y deisebydd, ac i ofyn a oes cynllun cymorth ar gael ar gyfer busnesau gwely a brecwast nad ydynt yn talu ardrethi busnes, os nad ydynt yn gyflogwyr nac wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac a ellid defnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol at y diben hwn.