Cyfarfodydd
NDM7339 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - COVID a'r economi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid a'r economiar
NDM7339 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r
manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn
ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw
Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng
Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth
Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn nodi â phryder
adroddiad y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y
bydd economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd
yn ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth
economaidd wedi'i dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi
cael yr effaith fwyaf arnynt.
Centre for
Towns - Covid and our Towns - 23 Ebrill 2020 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
Yn croesawu Cronfa
Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn
rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn
ymateb i’r pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU.
Yn nodi’r ffaith bod
cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd
yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw
argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
Yn nodi adroddiad y
Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau
trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp
Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
Yn cydnabod
swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a
deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y
Coronafeirws.
Yn croesawu’r gwaith
arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt
ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy
cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
Yn croesawu galwadau
gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC
Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i
Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar
allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
Yn galw eto ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan
gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws
Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan i ymdrin ag effeithiau'r pandemig, a
fyddai'n trawsnewid y sectorau a nodwyd fel y rhai fyddai'n cael eu taro
waethaf gan Covid-19, yn adeiladu Cymru gynaliadwy drwy baratoi'r ffordd i
genedl ddi-garbon erbyn 2030 a datblygu ymdeimlad newydd o 'leoliaeth' sy'n
gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai nawr yw'r
amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru
fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7339 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision
economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y
pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy
gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r
Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn nodi â phryder adroddiad
y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y bydd
economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd yn
ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth economaidd wedi'i
dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi cael yr effaith fwyaf
arnynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
1 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn
nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig
COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu
ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
Yn
nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau
trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp
Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
Yn
cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol
a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y
Coronafeirws.
Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy
Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau
bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein
hymateb i bandemig COVID-19.
Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu
ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru
i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn
sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru
tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn
sgil y pandemig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
25 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli
rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl
Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
16 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7339 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision
economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y
pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy
gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r
Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn croesawu Cronfa Cadernid
Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn rhan o becyn
gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn ymateb i’r
pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU.
4. Yn nodi’r ffaith bod cyllid
yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi
na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng
yn y dyfodol i’r un graddau.
5. Yn nodi adroddiad y Centre
for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y
mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol
Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
6. Yn cydnabod swyddogaeth
bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o
safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws.
7. Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni
drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o
sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn
cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
8. Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu
ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru
i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
9. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn
sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru
tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn
sgil y pandemig.
10. Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU
ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well
am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
25 |
30 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd