Cyfarfodydd
P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
4 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 44 KB Gweld fel HTML (4/1) 11 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, 29 Mawrth 2021, Eitem 4 PDF 223 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 28 Mehefin 2021 [Saesneg yn unig], Eitem 4 PDF 497 KB Gweld fel HTML (4/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd fod y ddeiseb wedi cyflawni ei
nod o sicrhau bod technoleg prosthetig yn gyfartal â'r hyn sydd ar gael o fewn
GIG Lloegr a'r Alban. Cytunodd felly i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd
ar y canlyniad cadarnhaol a gafwyd.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i lunio astudiaeth achos i ddangos sut y gall deisebau wneud
gwahaniaeth.
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 12.01.21 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 100 KB
- 14.02.21 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 502 KB Gweld fel HTML (3/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i oedi’r ddeiseb fel y gall y
Pwyllgor, neu’r un sy’n ei olynu, drafod diweddariad pellach gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl iddo ystyried cyngor newydd.
Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 02.11.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 237 KB
- 10.11.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 503 KB Gweld fel HTML (3/3) 7 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn pam mae’r sefyllfa o ran
mynediad at brostheteg a reolir gan ficrobroseswyr yn wahanol yng Nghymru.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n uniongyrchol at
y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am:
·
y
rhesymeg pam nad yw pen-glin prosthetig microbrosesydd (MPK) ar gael trwy'r
gwasanaeth cyfredol; ac
·
yr amserlen ar gyfer adolygu
manyleb bresennol y gwasanaeth, gan nodi ei bod yn ymddangos mai yn 2014 y
cafodd ei diweddaru ddiwethaf, a'r rhyngweithio rhwng adolygiad llawn a'r
broses flaenoriaethu flynyddol ar sail tystiolaeth a amlinellwyd gan y
Gweinidog.
Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
6 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 6 PDF 44 KB Gweld fel HTML (6/1) 11 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 6 PDF 166 KB
- 13.07.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 6 PDF 307 KB
- 06.09.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 213 KB Gweld fel HTML (6/4) 18 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y
tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gofyn am fanylion ynghylch pryd y bydd WHSSC yn cynnal
adolygiad o ‘Fanyleb Gwasanaeth y Gwasanaethau Arbenigol: CP89 Gwasanaethau
adsefydlu i’r rhai sydd wedi colli aelod a’r rhai sydd wedi cael aelod
prosthetig', ac am esboniad pam mae'r sefyllfa ynghylch mynediad at brostheteg
a reolir gan ficrobrosesydd yn wahanol yng Nghymru.