Cyfarfodydd
NDM7331 Dadl Plaid Cymru - Yr economi a Covid-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Yr Economi a Covid-19
NDM7331 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl
ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;
b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac
ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth
amgen yn dilyn yr argyfwng;
c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut
y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad o’r argyfwng; a
d) sefydlu "Cronfa Adnewyddu Cymru
Gyfan" gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein
gwlad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o
gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan
gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu
dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd
wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi
newydd.
2. Yn nodi Cronfa
Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu
miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i
gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith
arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws
Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog
yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn
gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac
yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r
trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti
ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth
inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod
angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i
Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.
6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19
ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r
Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol
i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei
wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (a), dileu
'cyflogaeth' a rhoi yn ei le 'prentisiaeth'.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys ar ddiwedd
is-bwynt (b):
'a chyflwyno rhaglenni
cadw a datblygu sgiliau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n
wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r
gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn o lai o weithgarwch.'
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (c), dileu
'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn ei le 'tasglu trawsbleidiol'.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt d) a
rhoi yn ei le:
'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol
Covid i gefnogi'r trefi a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro
galetaf gan y pandemig.'
Gwelliant 6 – Neil
McEvoy (Caol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Er mwyn ailadeiladu
Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sicrhau bod y
cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu
eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;
b) rhoi cymorth i'r
rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn
ystod yr argyfwng;
c) deddfu i alluogi
cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru;
a
d) cyfeirio'i pholisi
economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy
greu diwydiant chwisgi cyflawn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7331 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cynllun gwarantu
cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;
b) sefydlu cynllun
ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd
angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng;
c) cynnull cynulliad
dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad
o’r argyfwng; a
d) sefydlu "Cronfa
Adnewyddu Cymru Gyfan" gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o
ailadeiladu ein gwlad.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
47 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael
ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n
gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o
ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a
mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.
2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru,
sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng
Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd
yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr
adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler
Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi
rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n
effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog
yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y
rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y
Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth
gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y
dyfodol.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron
£2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd
faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu
ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a
theg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
4 |
23 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2,
3, 4 a 5 eu dad-ddethol
Gwelliant
6 – Neil McEvoy (Caol De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Er
mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau
sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;
b)
rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i
gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;
c)
deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector
cyhoeddus Cymru; a
d)
cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio
bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
24 |
31 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael
ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n
gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o
ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a
mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.
2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru,
sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng
Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd
yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr
adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler
Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi
rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n
effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog
yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y
rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y
Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth
gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y
dyfodol.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron
£2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd
faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu
ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a
theg.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
4 |
23 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.