Cyfarfodydd

P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 - diangen ac yn tanseilio hawliau dynol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 – diangen ac yn tanseilio hawliau dynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgîl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig yn parhau yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i nodi'r ddeiseb a'r pryderon a godwyd ond y bydd yn cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, gan ddiolch i'r deisebwyr am godi’r mater hwn.