Cyfarfodydd

P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd am y ddeiseb ar 8 Gorffennaf 2020, y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog a gan fod y deisebydd wedi dweud nad oes ganddo unrhyw sylwadau pellach i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau pellach a gynhaliwyd gyda Debenhams neu fanwerthwyr mawr eraill, a gofyn pa opsiynau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ran darparu cefnogaeth; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gael dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf.