Cyfarfodydd
Strategaeth ar gyfer gwobrwyo staff y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Strategaeth wobrwyo Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Daeth cytundeb cyflog presennol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer staff, i ben ar 31 Mawrth 2012. Mae’r trafodaethau'n parhau ar y trefniadau tâl yn y dyfodol.
Cyfarfod: 02/02/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
5 Strategaeth ar gyfer gwobrwyo staff y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- AC(4)2012(1) Papur 5 - Strategaeth ar gyfer gwobrwyo staff y Cynulliad
- AC(4)2012(1) Papur 5 Rhan 2 - Strategaeth ar gyfer gwobrwyo staff y Cynulliad
Cofnodion:
Bydd cytundeb
cyflog presennol y Comisiwn ar gyfer staff yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.
Trafodwyd y strategaeth taliadau newydd a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2012, a
phwysleisiodd y Comisiynwyr y byddai’n bwysig ystyried y cyd-destun economaidd
anodd a ffactorau perthnasol eraill. Bydd y strategaeth yn ganllaw ar gyfer trafodaethau
â’r undebau llafur ac yn sail i drefniadau taliadau yn y dyfodol.