Cyfarfodydd
Wales Legislation Online
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/02/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein
Dogfennau ategol:
- AC(4)2012(1) Papur 4 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth ariannol y Comisiwn ar gyfer Deddfwriaeth Cymru Ar-lein
Cofnodion:
Bu’r Comisiwn yn ystyried dyfodol y gefnogaeth ariannol a ddarperir ganddo
ar gyfer gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein, yng ngoleuni: yr amcanion a bennwyd
gan y Comisiwn yn 2008 ac yn benodol y cynnydd a wnaed i gael “Llyfr Statud i
Gymru”; y ffaith nad yw’r wefan wedi cael sicrwydd ynglŷn ag arian tymor hir o ffynonellau eraill
i alluogi cynnydd sylweddol i gael ei wneud yn hyn o beth, ac; cynlluniau
eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hygyrchedd cyfreithiau Cymru, fel y
cyhoeddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol ar 5 Hydref 2011.
Nododd y Comisiwn y ganmoliaeth roedd y
wefan wedi’i chael gan ystod ehangach o gyrff dros y blynyddoedd, a chytunwyd
bod y safle wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i ddealltwriaeth y cyhoedd o
ddatganoli dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Comisiwn. Fodd
bynnag, wrth edrych i’r dyfodol, roedd y Comisiwn yn teimlo mai’r ffordd orau o
sicrhau ei gyfraniad at wella hygyrchedd y cyhoedd i gyfreithiau Cymru oedd
drwy ddatblygu’r wybodaeth a ddarparwyd ar wefan y Cynulliad ei hun. Gofynnodd
y Comisiwn am gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wneir yn hyn o beth.
Penderfynodd y Comisiwn i beidio â pharhau i ddarparu cefnogaeth ariannol i Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein a rhoddodd ganiatâd i’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol gymryd y camau angenrheidiol i roi’r penderfyniad hwn ar waith cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol bosibl.