Cyfarfodydd

SL(5)548 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/05/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

NDM7323 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Fel y nodir ar yr agenda, cynhaliwyd y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11

Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw’r gofrestr.

NDM7323 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020.

Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

11

6

57

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)548 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

CLA(5)-15-20 – Papur 19 – Adroddiad

CLA(5)-15-20 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-15-20 – Papur 21 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-15-20 – Papur 22 – Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 11 Mai 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.