Cyfarfodydd
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21: Camau gweithredu o'r cyfarfod ar 4 Mehefin 2020 – 22 Mehefin 2020
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN1 - Llythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 – 17 Mehefin 2020
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21
NDM7335 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7335 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig;
(v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a
(vi)
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
24 |
1 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft
Papur 1 –
Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân
newidiadau.
Cyfarfod: 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth
Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Matthew Denham
Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
Margaret Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol
Papurau
ategol:
Papur 1 - Cynnig y
Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21
Papur 2 – Llythyr
at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – 29 Mai 2020
Briff Ymchwil
Dogfennau ategol:
- FIN(5)-12-20 P1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21, Eitem 3 PDF 577 KB
- FIN(5)-12-20 P2 - Llythyr at y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - 29 Mai 2020, Eitem 3 PDF 368 KB
- Briff Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/3)
Cofnodion:
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaethau Ariannol; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu
Strategol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i
ysgrifennu at y Pwyllgor:
·
gan nodi faint o gyllid ychwanegol
cyffredinol ar gyfer COVID-19 y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael yn y gyllideb
atodol hon;
·
gan rannu dangosyddion perfformiad
allweddol yr adran iechyd ar gyfer mesur effeithiolrwydd y gwariant gwerth £57
miliwn i gefnogi'r Strategaeth Profi Olrhain Diogelu, o ran y cyfalaf sy'n
ofynnol i sefydlu'r rhaglen a'i chostau gweithredu;
·
a chan nodi canlyniad ei
thrafodaethau â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid ar gyfer
Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog.