Cyfarfodydd

Recriwtio'r Comisiynydd Safonau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Trosolwg y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar y trefniadau ynghylch goruchwylio’r Comisiynydd Safonau, a chytunodd y dylai'r papur hwn gael ei drafod gan y Pwyllgor Safonau olynol yn y Chweched Senedd.


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Adroddiad drafft ar benodi Comisiynydd Safonau y Senedd

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar benodi Comisiynydd Safonau y Senedd.

 

2.2 Nododd y Pwyllgor y byddai cynnig yn cael ei gyflwyno ar gyfer y penodiad, i’w gymeradwyo ar 17 Mawrth 2021.


Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Gwrandawiad cyn penodiad Comisiynydd Safonau y Senedd

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd Safonau Dros Dro i'r cyfarfod.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y Comisiynydd Safonau Dros Dro ynghylch ei weledigaeth ar gyfer rôl y Comisiynydd Safonau drwy gydol y Chweched Senedd.


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Recriwtio Comisiynydd Safonau: Swydd-ddisgrifiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y disgrifiad swydd drafft ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd.

 

3.2 Nododd y Pwyllgor yr amserlenni ar gyfer y broses recriwtio.


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Recriwtio Comisiynydd Safonau: Tâl cydnabyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau dâl y Comisiynydd Safonau newydd a chytunodd i roi adborth i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd.


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Recriwtio'r Comisiynydd Safonau

SoC(5)-12-20 Papur 2 - Recriwtio Comisiynydd Safonau newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd.

 

3.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r cyfrifoldeb am y trefniadau gweinyddol yn cael ei ddirprwyo i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried Disgrifiad Swydd drafft mewn cyfarfod sydd i ddod.


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Recriwtio'r Comisiynydd Safonau

SoC(5)-07-20 Papur 4 - Recriwtio Comisiynydd Safonau newydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau i ddechrau trafod penodi'r Comisiynydd Safonau newydd.