Cyfarfodydd

P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ailadroddodd y Pwyllgor ei fod yn cefnogi’r ddeiseb. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau trwy Fil Amgylchedd y DU a fyddai’n ei galluogi i fynnu bod bwyd dros ben yn cael ei ailddosbarthu, a’r ffaith bod y Bil hwnnw’n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw beth pellach y gallai wneud ar y mater ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb, a chytunodd i:

 

o   ysgrifennu at y pwyllgor yn Nhŷr Cyffredin syn gyfrifol am graffu ar Fil Amgylchedd y DU i nodi ei gefnogaeth ir darpariaethau perthnasol syn cael eu darparu i Weinidogion Cymru; ac i

o   ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i annog bod pwerau ychwanegol yn cael eu defnyddio, pan fyddant ar gael, i'w gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi bwyd sydd dros ben.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am fanylion pellach am asesiad presennol Llywodraeth Cymru o'i phwerau o ran dosbarthu bwyd sydd dros ben, a'r pwerau sy'n cael eu ceisio gan Weinidogion Cymru trwy Fil Amgylchedd y DU.