Cyfarfodydd

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariadau pellach am y ddeiseb a nododd y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi cyfathrebu â cholegau Addysg Bellach arbenigol, a’r ceisiadau am estyniad a gymeradwywyd hyd yma.

Gan gydnabod pryderon y deisebydd am y canllawiau, sy’n mynd ymhellach na’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd y diweddariad gan y Gweinidog Addysg, gan gynnwys y cadarnhad bod pedwar cais am estyniadau wedi dod i law a bod pob un wedi'i gymeradwyo, a chytunodd i aros am ymateb sylweddol pellach i'r materion a godwyd yng ohebiaeth flaenorol y deisebydd.

 


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

·                     ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i rannu’r dadleuon manwl a gyflwynwyd gan y deisebydd ynghylch digonolrwydd canllawiau Llywodraeth Cymru, gan ofyn ei barn ar y materion penodol a ganlyn:

·                     yn ei barn hi, a fyddai ceisiadau i ymestyn cyfleoedd astudio i bobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu yn sgil pandemig y coronafeirws yn debygol o fodloni’r prawf ‘amgylchiadau eithriadol’;

·                     a yw’r Llywodraeth yn bwriadu cyfathrebu â lleoliadau addysg arbenigol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu i’w hannog i drafod a ddylid gwneud ceisiadau o’r fath ar gyfer eu myfyrwyr nhw; a

·                     chyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y camau y mae’r Pwyllgor yn eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb hon.