Cyfarfodydd

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardethu Annomestig (Rhestri) a'r Bil Diogelwch Tân

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân a'r Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a chytuno ar ddyddiad cau ar gyfer adrodd yn ddiweddarach.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diogelwch Tân i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 18 Mehefin 2020.