Cyfarfodydd

P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglyn â Graddau UG 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r ffaith bod y deisebydd yn derbyn yr esboniad ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod yn annhebygol y bydd graddau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 yn cael eu newid ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan mai ychydig iawn yn rhagor y gallai ei gyflawni, a diolchodd i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

·         rhannu sylwadau pellach y deisebydd â'r Gweinidog Addysg, a gofyn am ymateb i'r materion a godwyd a’r cwestiynau pellach a ofynnwyd, gan gynnwys y pryderon a fynegwyd ynghylch lles myfyrwyr sy'n dewis sefyll dwy set o arholiadau;

·         ysgrifennu at sefydliadau sy'n cynrychioli penaethiaid i ofyn am eu barn ar y dull gweithredu a ddefnyddir yng Nghymru;

·         ceisio barn Aelodau'r Senedd Ieuenctid.