Cyfarfodydd

SL(5)530 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Cymru) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

NDM7319 – Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynigion o dan eitemau 6 a 7 tan y Cyfnod Pleidleisio

NDM7319 – Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   


Cyfarfod: 22/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 - gohiriwyd tan 29 Ebrill 2020