Cyfarfodydd

COVID-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/02/2021 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad. Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a thrafododd y mater hwn â’r Prif Weinidog yn ystod yr ail eitem ar yr agenda heddiw.

 


Cyfarfod: 11/02/2021 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Ar ran y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd i Dr Andrew Goodall ddiolch i holl staff y GIG am eu gwaith yn ystod y pandemig.

 

Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.

 


Cyfarfod: 03/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Cymorth Busnes Covid-19

Ken Skates AS Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau

Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-4-21 - Papur Briffio(2)

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau; Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

3.2 Cytunodd Ken Skates AS i anfon copi o’r tabl sy’n cael ei lunio i gymharu’r cymorth busnes a gynigir yng Nghymru â’r cymorth a gynigir yng ngweddill y Deyrnas Unedig.


Cyfarfod: 16/12/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN3 - Llythyr gan GolegauCymru: Ffyrlo - 4 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 - 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 3 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Craffu ar reoliadau COVID-19 – 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau COVID-19.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

13 Llythyr at y Llywydd: Craffu ar reoliadau Covid-19

CLA(5)-31-20 – Papur 103 – Llythyr at y Llywydd, 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Llywydd.

 


Cyfarfod: 22/10/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Adferiad ac ailadeiladu ar ôl Covid-19

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn holi’r Cwnsler Cyffredinol ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad ac ailadeiladu wedi pandemig Covid-19.

 

 

 


Cyfarfod: 22/10/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Covid-19


Cyfarfod: 22/10/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

 

Des Clifford - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog


Cyfarfod: 22/10/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd

 

Liz Lalley, Dirprwy GyfarwyddwrAdferiad, Llywodraeth Cymru

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

14 Rheoliadau COVID-19: Trafod yr ohebiaeth a ddaeth i law

CLA(5)-30-20 – Papur 49 – Llythyr gan y Llywydd, 8 Hydref 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 50 – Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y prif faterion mewn perthynas â chraffu ar reoliadau COVID-19 a sut yr oedd am ymateb i'r llythyr oddi wrth y Llywydd dyddiedig 8 Hydref 2020.

 


Cyfarfod: 15/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Brifysgol Abertawe at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

13 Rheoliadau Covid-19: Trafod gohebiaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 50 – Llythyr gan y Llywydd, 8 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 a chytunodd i drafod ei ymateb yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 23/09/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Covid-19: Adfer - Undebau Llafur

Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol, UNITE Cymru

Mike Payne, Uwch Drefnwr, Cymru a De Orllewin, Undeb GMB

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro, Cyngres yr Undebau Llafur Cymru

Cofnodion:

3.1 Atebodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol, UNITE Cymru, Mike Payne, Uwch Drefnwr Cymru a De Orllewin, Undeb GMB a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngres Undebau Llafur Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Ymateb ariannol i Covid-19 - 5 Medi 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar y symiau canlyniadol y mae Cymru wedi'u cael yn sgil COVID-19 - 19 Awst 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 2 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Prif Weinidog: Ymchwiliad cyhoeddus i'r ymateb i bandemig y Coronafeirws yng Nghymru – 30 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/08/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Adroddiad Llywodraeth Cymru: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

CLA(5)-24-20 – Papur 51 – Adroddiad Llywodraeth Cymru

CLA(5)-24-20 – Papur 52 – Datganiad ysgrifenedig, 19 Awst 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i groesawu'r adroddiad.

 


Cyfarfod: 16/07/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID-19: Craffu ar waith Gweinidogion

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru

Simon Jones, Cyfarwyddwr ar gyfer Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sgiliau Cyflogadwyedd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-15-20(P1) Papur Briffio

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor: Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd; Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd; ac Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Sgiliau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion pellach i'r Pwyllgor, yn unol â’r hyn a drafodwyd yn ystod y cyfarfod


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Rt. Hon Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru

 

Papurau ategol:

Papur 13  - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - COVID-19: Cefnogaeth i Gymru - 9 Ebrill 2020

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru ar yr ymateb ariannol i COVID-19.

 

9.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion cyfrifiadau Trysorlys EM o ran y cyllid gwerth £500 miliwn mewn ymateb i COVID-19 ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn Niweddariad Economaidd yr Haf.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Trafod ymatebion gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol: Effaith ariannol pandemig COVID-19

Papurau ategol:

Papur 10 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 3 Gorffennaf 2020

Papur 11 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd - 7 Gorffennaf 2020

Papur 12 - Llythyr gan Archwilio Cymru - 7 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 8 - Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at Ganghellor y Trysorlys: Y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig - 4 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Ganghellor y Trysorlys: Diweddariad economaidd yr haf - 3 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyfarfodydd rhwng y pedwar Gweinidog Cyllid – 19 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion a oedd yn weddill.

 

 

 


Cyfarfod: 03/07/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a'r adferiad

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS - Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS - Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Andrew Goodall - Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Simon Brindle – Cyfarwyddwr Strategaeth Brexit, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade –Cyfarwyddwr Cyffredinol Economi, Sgiliau a Chyfoeth, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a’r cynlluniau ar gyfer sicrhau adferiad yn y dyfodol. 

 


Cyfarfod: 19/06/2020 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3.)

Gwaith craffu gan y Senedd ar y pandemig COVID-19

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 107
  • Cyfyngedig 108

Cyfarfod: 12/06/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch y sesiwn dystiolaeth arfaethedig gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 11/06/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - dilyniant i sesiwn dystiolaeth 7 Mai 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/06/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

COVID-19: Parhau â'r sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Keith Smyton, Pennaeth yr Adran Bwyd

 

Cofnodion:

3.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith y sector amaethyddiaeth, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.

 

 


Cyfarfod: 11/06/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

COVID-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 11/06/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID-19: Sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Keith Smyton, Pennaeth yr Adran Bwyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith y sector amaethyddiaeth, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.

.

 


Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys 

 

Papurau ategol:

Papur 1 - Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Ymateb ariannol i’r pandemig COVID-19 - 24 Ebrill 2020

Papur 2 - Ymateb gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - COVID-19: Cymorth i Gymru - 9 Ebrill 2020

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch yr ymateb ariannol i bandemig COVID-19 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.

 


Cyfarfod: 19/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Covid-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.

 


Cyfarfod: 19/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

COVID-19:Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector bwyd a diod

Gwyn Howells, Prif Weithredwr – Hybu Cig Cymru

Andrew Opie, Cyfarwyddwr Bwyd a Chynaliadwyedd – Consortiwm Manwerthu Cymru

Pete Robertson, Cyfarwyddwr Dros Dro – Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Consortiwm Manwerthu Cymru, Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru a Hybu Cig Cymru,

 

 

 


Cyfarfod: 19/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector amaethyddiaeth

John Davies, Llywydd - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru

Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi -Undeb Amaethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru. 

 


Cyfarfod: 07/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Covid-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID 19: Sesiwn dystiolaeth gyda Lywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr – Llywodraeth Cymru

Christianne Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg - Llywodraeth Cymru

John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio - Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau - Llywodraeth Cymru

Keith Smyton, Pennaeth yr Adran Bwyd - Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith y sector amaethyddiaeth, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.


Cyfarfod: 07/05/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Fforwm Gofal Cymru

Mary Wimbury, Prif Weithredwr – Fforwm Gofal Cymru

Mario Kreft, Cadeirydd – Fforwm Gofal Cymru

 

Papur 2: Fforwm Gofal Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.

 


Cyfarfod: 05/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

COVID-19: Trafod busnes sydd ar ddod y Pwyllgor.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar waith arfaethedig y Pwyllgor ynghylch COVID-19. Cytunodd yr Aelodau ar raglen waith i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid, a hynny gan flaenoriaethu’r meysydd a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:

  • effaith COVID-19 ar blant sy’n agored i niwed;

·         effaith COVID-19 ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc; ac

·         effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach.

 

 


Cyfarfod: 05/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 05/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed

 



 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID-19 a’i effaith ar blant a phobl ifanc.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor unwaith i’r adroddiad ar farwolaethau annisgwyl ar ddechrau’r pandemig COVID-19 yng Nghymru gael ei gyhoeddi ac unwaith i Lywodraeth Cymru gael cyfle i’w ystyried.

 

2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gymryd y camau a ganlyn:

  • rhoi gwybod faint o’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth drwy Gronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector a Chronfa Cadernid y Trydydd Sector, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • egluro faint o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector sy’n golygu parhau â gwaith presennol a faint sy’n gyllid ychwanegol; a
  • chadarnhau’r amserlenni adrodd ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn gweithio gyda chynrychiolwyr gofalwyr i drafod anghenion penodol ystod eang o ofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19 ac ar ôl iddo ddod i ben.

 

 


Cyfarfod: 28/04/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Covid-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 28/04/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg 

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg 

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog Addysg a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith ar blant, ar bobl ifanc ac ar fyfyrwyr, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.

 


Cyfarfod: 28/04/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Llywydd: Swyddogaethau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

CLA(5)-12-20 – Papur 19 – Llythyr gan y Llywydd, 9 Ebrill 2020

CLA(5)-12-20 – Papur 20 – Llythyr at y Llywydd, 2 Ebrill 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Llywydd.

 


Cyfarfod: 24/03/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Bil Coronafeirws Llywodraeth y DU

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth y DU bellach wedi gosod ei Bil Coronafeirws, ac y byddai dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.

 


Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 174

Cofnodion:

Ni chyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Cynnig i gael ei graffu gan bwyllgor, oherwydd y cyflymder y disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno drwy’r cyfnodau yn Senedd y DU. Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory.

 

 


Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

COVID-19: Bil Brys

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru

Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Sapna Lewis, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’u swyddogion.

3.2 Cytunodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch gofal iechyd parhaus a'r gwahaniaethau rhwng y prosesau yng Nghymru a Lloegr.

3.3. Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor, ar ôl cyhoeddi’r Bil, i egluro a yw’r pŵer i gau porthladdoedd a meysydd awyr Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.

3.4 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n ymwneud ag elfennau yn y Bil y bydd angen cymeradwyaeth Seneddol arnynt cyn iddynt gael eu deddfu yn hytrach na chymeradwyaeth y Gweinidog.

3.5 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i roi nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y trafodaethau a'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r diwydiant bwyd a'i staff.

 


Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Briff technegol ar Covid-19

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, Llywodraeth Cymru

Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth Dr Frank Atherton ddatganiad rhagarweiniol byr.

2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Frank Atherton a Dr Rob Orford.