Cyfarfodydd

P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw Adran Achosion Brys amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch yr ymgyrchwyr ar ddatrysiad llwyddiannus i’w hymgyrch.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa sicrwydd y gall ei roi bod amgylchiadau presennol yr adran damweiniau ac achosion brys, yng ngoleuni effaith y pandemig cyfredol arni, yn cael eu hystyried mewn cynlluniau a phenderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg;

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle i drafod busnes fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn.