Cyfarfodydd
NDM7289 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl
NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o
Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2.
Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i
unedau sy'n bell iawn o'u teulu.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n radol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar
gontract allanol;
b)
bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw
mewn unedau yn Lloegr;
c)
gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag
adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;
d)
sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn
cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sicrhau bod holl
gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu
lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;
b) sicrhau digon o
gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer
gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar
gyfer contractio gofal yn raddol;
c) sicrhau bod
Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i
unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru
gydymffurfio â gofynion arolygu;
d) cyflwyno
Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a
lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau
Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac
e) sicrhau bod yn
rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau
triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru
er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon ynghylch
ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd
meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2. Yn credu na ddylid anfon
unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u
teulu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) sicrhau digon o gapasiti
cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir
mynd ati'n raddol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;
b) bod â chynllun ar gyfer
ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;
c) gosod gwaharddiad ar GIG
Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn
Ansawdd Gofal;
d) sicrhau bod unedau y tu
allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu
Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
1 |
19 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon ynghylch
ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd
meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
11 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.