Cyfarfodydd
NDM7287 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal
NDM7287 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1.
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi
cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r
Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.
2.
Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n
gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.
3.
Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant
yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi
bod mewn tri neu fwy o leoliadau.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a)
adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n
derbyn gofal;
b)
cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i
lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;
c)
ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a
d)
sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i
bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.
Adroddiad
Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant
2019
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod yna
resymau cymleth tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y
disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn
ddatrysiad arwynebol.
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) mai llwybr
cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n
derbyn gofal a’u rhieni;
b) na ddylai
cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff
eu talu; ac
c) gall cysylltiad
cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.
Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod pobl
ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o
wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn
gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at
gadw eu plentyn mewn gofal.
Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y dylai’r
ysgogiad elw gael ei ddileu o’r maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r
dewis gorau i wasanaethu buddiannau plant Cymru yn y dyfodol.
Gwelliant 5 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynnu bod plant
sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac
y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel
er mwyn trafod yr hyn â godwyd.
Gwelliant 6 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod
ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn
cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb
i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
16.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7287 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r
maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar
Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.
2. Yn nodi ymhellach bod
cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol
waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.
3. Yn gresynu bod nifer y
plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd
diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o
leoliadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol:
a) adolygu cynlluniau
awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;
b) cynorthwyo awdurdodau
lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a
ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;
c) ymchwilio i gymorth
ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a
d) sicrhau bod mynediad i
gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a
gwarcheidwad ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.