Cyfarfodydd
NDM7278 Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd
NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod
a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a
Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol
wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau
diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd
newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o
lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cychwyn ymchwiliad
annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad
o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol;
b) sicrhau bod
cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad
i'r dinistr diweddar, yn enwedig plant;
c) sicrhau bod y
gronfa galedi ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn
effeithio arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn
enwedig y rhai heb yswiriant;
d) esbonio statws y
cymorth grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir;
e) archwilio'r
posibilrwydd o gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o
sicrhau yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru;
f) gofyn am asesiad
cynhwysfawr gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu
hangen i leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant
a 0.1 y cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, ar ôl
'arwrol' mewnosoder 'y gwasanaethau brys, staff asiantaeth,'.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sicrhau bod yr
ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y
cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan
gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth
ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y
llifogydd arnynt;
c) darparu arian
ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar
amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi
cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu
ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr
hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl
Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol
newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd
sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell
– arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth
ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu
cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (c) ac ailrifo yn unol â hynny:
'sefydlu cynllun rhyddhad
ardrethi i helpu busnesau i wella yn dilyn llifogydd;
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a
busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol
i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i
liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth
Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy sefydlu lleiniau na ddylid
datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, megis gorlifdiroedd
naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a lleihau'r perygl o ddifrod i
gartrefi a busnesau.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr
a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol
wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau
diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd newid yn
yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd
difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cychwyn ymchwiliad
annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad
o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol;
b) sicrhau bod cefnogaeth
ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad i'r
dinistr diweddar, yn enwedig plant;
c) sicrhau bod y gronfa galedi
ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn effeithio
arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn enwedig y rhai
heb yswiriant;
d) esbonio statws y cymorth
grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir;
e) archwilio'r posibilrwydd o
gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o sicrhau
yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru;
f) gofyn am asesiad cynhwysfawr
gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu hangen i
leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant a 0.1 y
cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'arwrol' mewnosoder 'y gwasanaethau
brys, staff asiantaeth,'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
2 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i
achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y
Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu
Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r
unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;
c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn
iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a
seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd
eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r
risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr
yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i
flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n
wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr
arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau
lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd
yn gynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
1 |
19 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol
Gwelliant
4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod
cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau
cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu
cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gwelliant
5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy
sefydlu lleiniau na ddylid datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o
lifogydd, megis gorlifdiroedd naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a
lleihau'r perygl o ddifrod i gartrefi a busnesau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant
5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr
a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys, staff asiantaeth, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a
gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd
yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd newid yn
yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd
difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i
achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y
Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu
Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r
unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;
c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn
iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a
seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd
eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r
risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr
yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i
flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n
wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr
arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau
lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd
yn gynt.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus
y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i ddeall
y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
1 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.