Cyfarfodydd

NDM7277 Dadl Plaid Cymru - Datgarboneiddio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl Plaid Cymru - Datgarboneiddio

NDM7277 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.

2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.

3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.

4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y sector ynni hydrogen, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o £28 miliwn i brosiectau cynhyrchu hydrogen carbon isel ledled y DU fel rhan o'r Rhaglen Cyflenwi Hydrogen.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i phweru gan hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, fel rhan o strategaeth ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau carbon.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector ynni hydrogen Cymru, a gweithio gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd hon.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7277 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.

2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.

3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.

4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei chynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal beilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

3

5

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.