Cyfarfodydd
NDM7274 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffyrdd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffyrdd
NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.
2. Yn cydnabod yr
effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a
thagfeydd ffyrdd.
3. Yn gresynu bod y
Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â
ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;
b) datblygu cynigion
ar gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i
Abergwaun;
c) ymgysylltu â
Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr
argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim,
gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
Cymru a sicrhau newid moddol.
2. Yn cydnabod
cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth
rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad
mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth
aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y
ffyrdd.
3. Yn gresynu bod
diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng
Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi
gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein
cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd
fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith
cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad
tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau
ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan
gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y
Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r
tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o
Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street
yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi
penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019
ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n
cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion
cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y
rhanbarth.
7. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys
y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd,
gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio
llesol a Metro’r Gogledd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pwysigrwydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus werdd i fynd i’r afael â’r
argyfwng hinsawdd a lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd.
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn cadarnhau’r egwyddor
y dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol i etholwyr Cymru a’r Senedd hon o ran
blaenoriaethau seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gwrthod unrhyw
ymgais gan Lywodraeth y DU i benderfynu ar flaenoriaethau gwariant a seilwaith
ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y Senedd hon ar ei rhan.
Gwelliant 5 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth
fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni pecyn
o fuddsoddiad seilwaith yn y rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus
ar gyfer Cymru gyfan.
Gwelliant 6 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'sicrhau datblygiad
cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth
gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi
blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion tagfeydd o amgylch Casnewydd.'
Gwelliant 7 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'gwella cysylltedd
trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru.'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
15.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.
2. Yn cydnabod yr effaith
economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd
ffyrdd.
3. Yn gresynu bod y Prif
Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd
liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;
b) datblygu cynigion ar
gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i
Abergwaun;
c) ymgysylltu â
Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws
rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy
ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau
newid moddol.
2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a
rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei
chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol
o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn
chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.
3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan
Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i
drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y
ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan
Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith
ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth
Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin
i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas
Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith
ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi
i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio
prif lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif
Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas
Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y
De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng
Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.
7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau
tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella
seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio
mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

4 |
20 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd.