Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2019-21

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau


Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/02/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau’r Gymanwlad Birmingham

CLA(5)-06-20 – Papur 20 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-06-20 - Papur 21 - Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 2019 Llywodraeth Cymru ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, Medi 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i gadarnhau na fyddai'n cyhoeddi adroddiad pellach.

 


Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham.

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Cynnig at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ddydd Iau 12 Mawrth.