Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Senedd 2021-22

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cyllideb Atodol 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am y sefyllfa ariannol yn 2021-22.

Gan ystyried y tanwariant mewn perthynas â'r gyllideb costau etholiad a neilltuwyd, a'r tanwariant a ragwelir mewn perthynas â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol, cymeradwyodd y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol a fydd yn cynnwys gostyngiad o £1.70 miliwn yng Nghyllideb 2021-22 a osodwyd. Bydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod fel rhan o broses y Gyllideb Atodol.

Roedd hyn i fod yn amodol ar ganlyniadau cyfrifon mis Rhagfyr, a bydd y Comisiynwyr yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw newid.

Cafodd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ei gymeradwyo a’i nodi gan y Comisiynwyr hefyd.


Cyfarfod: 11/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

13

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22. Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft

Annex 1 – Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft

Annex 2 - Cyllideb 2021-22

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11
  • Cyfyngedig 12
  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, yn dilyn ei waith craffu. Trafododd y Comisiynwyr feysydd yr oedd y Pwyllgor wedi bod â diddordeb arbennig ynddynt: Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19, gan gynnwys yr effaith ar gronfa’r prosiect; Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2019 a’r strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ynghyd ag archifo a gwydnwch parhad busnes.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i’r argymhellion, gan gymeradwyo dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22, a fydd yn cael ei gosod ar 4 Tachwedd 2020. Nodwyd bod dadl ar Gynnig y Gyllideb wedi’i threfnu yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd 2020.


Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18
  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr ddiwygiadau pellach i'r gyllideb ddrafft, gyda mân newidiadau ers cyfarfod y Comisiwn ar 13 Gorffennaf.

Gwnaethant gymeradwyo Cyllideb Ddrafft 2021-22, cyn iddi gael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.

At hynny, cytunodd y Comisiynwyr ar y diwygiadau i'r datgeliadau ar gyfer Safon Cyfrifeg Ariannol Ryngwladol newydd 16 – Prydlesi (IFRS 16) a diwygio blaenoriaethau Cronfa Brosiect.

At hynny, nododd y Comisiwn y llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Strategaeth Gyllideb Comisiwn y Senedd 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr bapur sy’n rhoi mwy o fanylion am yr effaith yn sgîl dilyn y senario sy’n cael ei ffafrio, sef lleihau’r cynnydd o 1% yn y gyllideb weithredol, y cytunwyd arno yn y cyfarfod ar 15 Mehefin.

Nododd y Comisiynwyr yr effaith ar y gyllideb gyffredinol a chronfa'r prosiect o ganlyniad i ddilyn y strategaeth sy’n well ganddynt ar gyfer 2021-22, a nodi y dylai blaenoriaethu manwl fod yn fater y dylai Comisiwn y Senedd nesaf fod yn gallu ei lunio. At hynny, gwnaethant nodi effaith Safon Cyfrifeg Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi ar gyflwyniad Cyllideb Comisiwn 2021-22, a'r llythyr at y Pwyllgor Cyllid yn diweddaru'r Pwyllgor ar y Prosiect Meddalwedd Deddfwriaeth.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth y Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Cynhaliodd y Comisiynwyr eu trafodaeth gyntaf am gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22. Gwnaethant ystyried blaenoriaethau a heriau sy'n debygol o godi yn y cyfnod sydd i ddod, a rhoi eu barn er mwyn llywio’r gwaith paratoi pellach sydd i'w wneud ar y gyllideb ddrafft. Gwnaethant ystyried rhinweddau a goblygiadau cymharol gwahanol senarios a mynegi y byddai’n well ganddynt ostwng y cynnydd a ragwelir yn y gyllideb o 2.48% i 1% er mwyn adlewyrchu’r hinsawdd economaidd debygol. Gwnaethant fyfyrio ar y ffaith y disgwylir datblygiadau pellach yn ystod y cyfnod hyd at yr hydref.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys cyllideb tair blynedd yn nogfen gyllideb ddrafft 2021-22, a pharhau i symud y ffocws oddi ar cap staffio sefydlog ar gyfer y sefydliad i ffocws tymor hirach ar y gyllideb weithredol gyfan.

At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am roi ystyriaeth bellach o'r geiriad o ran diweddaru Nodau Strategol y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd.

Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod erbyn 1 Hydref, yn ôl y gofyn.