Cyfarfodydd
NDM7244 Dadl Plaid Cymru - Perfformiad y GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Perfformiad y GIG
NDM7244 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau
perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i
gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a
gwasanaethau.
2. Yn gresynu at
ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf
ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a
sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid
llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan
amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir
cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond:
a) os caiff
gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw
gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad
sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch;
c) os ceir gwelliannau
i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a
chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod rhai o
fyrddau iechyd Cymru yn gohirio recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n
gwaethygu perfformiad gwael a phwysau ar staff rheng flaen.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn cydnabod effaith
degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu
gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu
mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y
tymor hir:
a) os bydd y GIG a
gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi
yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r
ysbyty;
c) drwy barhau â’r
ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant,
gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar
y cyd.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4 (a) dileu
', ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n
ddigonol ar draul y GIG'.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'os caiff y rhwystrau
artiffisial rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu dileu.'
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd
i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal
cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn
grant bloc Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar
gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad
ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd
wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl
cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a
oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal
cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn
y tymor hir dim ond:
a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un
parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u
hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau
sy'n atal salwch;
c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r
gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal
cymdeithasol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio
recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau
ar staff rheng flaen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU
ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys
iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y
gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel
partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i
helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein
gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar
gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
23 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3
a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol
yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu
perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
8 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau
perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i
gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a
gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo
llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn
credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau
bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch
staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn
cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar
gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol,
ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn
y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel
partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i
helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu
iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
5. Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau
ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu
perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.