Cyfarfodydd
NDM7241 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd
NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar
23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y
manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb
Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) llunio cytundebau
masnach rydd newydd;
b) creu system
fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant
ddod;
c) sefydlu dull newydd
o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas
Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas
Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion
yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr
heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod
felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn
llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb
gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran
tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth
y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r
cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a
fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad
unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i
godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd.
Deddf
yr UE (Y Cytundeb Ymadael)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi
pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23
Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi
canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd Cymru,
ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar
31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y manteision
posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan
gynnwys:
a) llunio cytundebau masnach
rydd newydd;
b) creu system fewnfudo decach
nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;
c) sefydlu dull newydd o ymdrin
â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr
Undeb Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
7 |
28 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o
ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol
i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn
sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau
Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau
datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac
yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb
Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod
yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n
gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r
Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
16 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o
ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol
i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn
sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau
Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau
datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac
yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y
Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth
Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan
sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n
gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r
Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.