Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

NDM7231 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2019-20
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.11

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2019-20
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cyfarfod: 20/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

CLA(5)-03-20 – Nodyn cyngor cyfreithiol

CLA(5)-03-20 – Papur briffio 1

CLA(5)-03-20 – Papur 10 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), ac fe’i derbyniwyd.

Cyfarfod: 16/01/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod Adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (MCD) yn ymwneud â Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.