Cyfarfodydd

SL(5)487 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

NDM7240 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2020.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

NDM7240 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2020. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 20/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 SL(5)487 - Rheoliadau Treth Gwrediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-03-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-03-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-03-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-03-20 – Papur 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 6 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 


Cyfarfod: 15/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) (Cymru) 2020

 

Papur 2 – Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) (Cymru) 2020 - Brîff cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1     Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.


Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau, sef dydd Iau 23 Ionawr, i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid adrodd yn ôl ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020.