Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

NDM7232 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2019-20

Dogfennau Ategol
Adroddiad Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), bydd unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

NDM7232 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2019-20

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 20/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

CLA(5)-03-20 – Papur 5 – Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 13 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 13/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a bydd yn ystyried ac yn cytuno ar adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 17 Ionawr 2020.


Cyfarfod: 13/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2019-20

CLA(5)-02-20 – Papur cefndir

CLA(5)-02-20 – Papur 2 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-02-20 – Papur 3 – Llythyr gan y Prif Weinidog - 8 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler eitem 2 uchod.