Cyfarfodydd

SICM(5)27 - Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

NDM7225 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.59

NDM7225 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 06/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 SICM(5)27 - Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 18 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-01-20 – Papur 19 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-20 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-01-20 – Papur 21 – Llythyr gan y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, 17 Rhagfyr 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 22 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i osod ei adroddiad gerbron y Cynulliad maes o law.