Cyfarfodydd

P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a nododd yr argymhellion diweddar a gynhyrchwyd gan Dasglu Cymru ar gyfer parcio ar y palmant a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhain yn llawn.

 

Yng ngoleuni'r bwriad i roi mwy o bwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol o ran parcio ar y palmant, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgyrchu ar y mater hwn, gan roi gwybod iddi y bydd y materion y mae'n eu codi ynghylch gorfodi, adrodd a chodi ymwybyddiaeth yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a ellir rhannu’r holl adborth â Grŵp y Tasglu er mwyn iddo gael ei ystyried ganddynt, ac i ofyn y cwestiynau a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebydd:

·         yr amserlen ar gyfer gwaith y tasglu a gweithredu eu hargymhellion, yn enwedig yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol ac etholiadau’r Senedd sydd ar ddod; a

·         sut yr ymgynghorir â phobl sydd wedi colli’u golwg a sefydliadau sy'n eu cynrychioli ynghylch unrhyw fesurau a weithredir.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am eglurhad ar aelodaeth Grŵp y Tasglu, ac i ofyn sut y bydd pobl â phrofiad byw a sefydliadau sy’n eu cefnogi yn cymryd rhan yn y gwaith hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu awgrymiadau’r deisebwyr gyda’r Dirprwy Weinidog; ac

·         ysgrifennu at sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn, fel RNIB Cymru, Living Streets, Sustrans ac Anabledd Cymru i ofyn am eu barn.