Cyfarfodydd

P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Amgylchedd fod gwaith i wneud Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosion Anifeiliaid) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio oherwydd effaith Covid-19 ac y bydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn ystyried rhoi anifeiliaid fel gwobrau yn y dyfodol, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei chyflwyno.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am ddiweddariad o ran a yw cyfarfod Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi'i gynnal yn sgil pandemig COVID-19, a gofyn eto am eglurhad ynghylch y potensial i fynd i'r afael â'r mater hwn trwy'r Rheoliadau sydd i ddod er mwyn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosion Anifeiliaid; a

·         rhannu'r wybodaeth a ddarperir gan y deisebydd a'r RSPCA mewn ymateb i'r honiadau a wnaed gan y Showmen’s Guild.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair #OperationGoldfish

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i:

·         ofyn iddi ystyried cyfeirio’r mater hwn at Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru i gael cyngor;

·         geisio cael eglurhad ynghylch y posibilrwydd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r Rheoliadau sydd i ddod i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosfeydd o Anifeiliaid; a

·         gofyn am ddiweddariad o ran pryd fydd Llywodraeth Cymru wedi cael ymateb gan y Showmen’s Guild ynghylch hunanreoleiddio’r arfer hwn, gan gynnwys copi o’r ymateb.