Cyfarfodydd

P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad pellach ar y ddeiseb a nododd yr ymatebion pellach a ddaeth i law, gan gynnwys y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, yn realistig, ar hyn o bryd yn sgil yr ymatebion manwl a ddaeth i law, gan gynnwys am waith a gynlluniwyd ond a ohiriwyd gan bandemig y Coronafeirws, a'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi gwrthod cyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei hymgysylltiad trwy gydol y broses.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a yw’r pandemig wedi effeithio ar yr adolygiad arfaethedig o’r dull gweithredu o ran alergeddau, ac at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am fanylion y gwaith sy’n cael ei gynnal ar ddietau arbennig mewn ysgolion.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Alergedd y DU a’r Ymgyrch Anaffylacsis i ofyn am eu barn am y sefyllfa bresennol ac am unrhyw dystiolaeth sydd ganddynt ynghylch digonolrwydd y cyngor a chanllawiau cyfredol i ysgolion;

·         Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am eu barn mewn perthynas â rôl ysgolion o ran alergeddau a'r cyngor sydd ar gael iddynt; a

·         Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg i ofyn am ei phersbectif ar sut mae ysgolion yn sicrhau bod pob plentyn sydd ag alergedd yn cael ei ddiogelu a'i gefnogi'n ddigonol, ac i gael ei barn am ddigonolrwydd y dyletswyddau a'r cyngor presennol.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am eglurhad ar y gwaith o fonitro gweithrediad y canllawiau a gofyn iddynt sicrhau yr ymgynghorir â’r deisebydd a phobl eraill sydd â phrofiad byw wrth adolygu’r dull ar gyfer alergeddau ac imiwnoleg o safbwynt iechyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig bod swyddogion y Gweinidog yn cwrdd â’r deisebydd i drafod y cymorth presennol i blant ag alergeddau mewn ysgolion.