Cyfarfodydd
NDM7191 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ganser Pancreatig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y Pancreas
NDM7191 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw un
o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn
goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu
hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon
cyflym.
2. Yn cydnabod bod tua
500 o achosion newydd o ganserau'r
pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o
ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un
flwyddyn.
3. Yn cydnabod mai canser
y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd
prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.
4. Yn croesawu mis
ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer
UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran
goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas
yng Nghymru drwy:
a) triniaeth gyflymach,
drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos
canlyniadau addawol;
b) diagnosis cynharach,
drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r
treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm
Taf; ac
c) cymorth cyfannol, drwy
gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn
well.
Cyd-gyflwynwyr:
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Cefnogwyr:
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewein Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7191 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw un
o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn
goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu
hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon
cyflym.
2. Yn cydnabod bod tua
500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob
blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015,
ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.
3. Yn cydnabod mai
canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus
sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.
4. Yn croesawu mis
ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer
UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran
goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y
pancreas yng Nghymru drwy:
a) triniaeth gyflymach,
drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos
canlyniadau addawol;
b) diagnosis cynharach,
drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r
treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm
Taf; ac
c) cymorth cyfannol,
drwy gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth
yn well.
Cyd-gyflwynwyr:
Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru)
David Melding (Canol De
Cymru)
Cefnogwyr:
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewein Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd
Cymru)
Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
12 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.