Cyfarfodydd

P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a nododd fod canllawiau NICE ar gyfer syndrom blinder cronig yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac y bydd fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2021. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddi am gymryd rhan yn y broses ac i’w hannog i gyfrannu at yr adolygiad o ganllawiau NICE. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n tynnu sylw NICE at y ddeiseb a’r dystiolaeth a glywyd.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi iddo'r argymhellion a ddarparwyd gan Gymdeithas Cymorth ME a CFS Cymru (WAMES) ac i ofyn am ymateb i'r rhain.

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ofyn am farn Action for ME a Chymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru ar ddigonolrwydd y gwasanaethau cyfredol yng Nghymru a'r dull a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys a fydd eu rôl yn y Grŵp Cynghori yn parhau.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am:

·                     wybodaeth am aelodaeth, cylch gwaith a rhaglen y grŵp llywio, gan gynnwys trosolwg o sut mae cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu nodi; ac

·                     ymateb Llywodraeth Cymru i feirniadaeth Dr Charles Shepherd ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau yn y GIG yng Nghymru.