Cyfarfodydd

P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar y sail bod Llywodraeth Cymru yn glir bod y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn hyrwyddo hyblygrwydd ac na fydd yn cyflwyno rhestr fanwl o bynciau sy’n rhaid i ysgolion eu haddysgu, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gellid ei gyflawni. Cytunodd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i rannu’r pryderon a fynegwyd gan Endometriosis UK ac i ofyn am ymateb i’r cwestiynau maent yn eu codi o ran sut y rhoddir gwybodaeth i ddisgyblion am y cylchred mislifol a llesiant mislifol.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ychwanegu cyfeiriad penodol at lesiant mislifol yn natganiad Yr Hyn sy’n Bwysig ar iechyd a llesiant corfforol, fel y’i cynigiwyd gan Endometriosis UK.