Cyfarfodydd

SL(5)467 - Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd: Tynnu Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn ôl

CLA(5)-01-20 – Papur 24 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd, 11 Rhagfyr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynghylch tynnu offerynnau a osodwyd gerbron y Cynulliad yn ôl.

 


Cyfarfod: 26/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

NDM7200 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2019. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7200 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2019.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

4

0

49

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 18/11/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)467 - Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2018

CLA(5)-32-19 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(5)-32-19 – Papur 4 – Gorchymyn

CLA(5)-32-19 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.