Cyfarfodydd

P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, er y cytunodd yr Aelodau fod hwn yn fater pwysig iawn, maent yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud gwaith i wella'r strategaeth gwrth-fwlio.  Cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gallant ei wneud fel Pwyllgor, ond nodwyd y gallant godi ymwybyddiaeth fel unigolion o'r mater pwysig hwn a'r arfer da a rennir. Wrth gau’r ddeiseb, canmolodd yr Aelodau’r bobl ifanc am eu hymrwymiad a’u hymgysylltiad â’r Pwyllgor Deisebau drwy gydol y gwaith, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, a gwnaeth y Pwyllgor eu llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud yn eu cymuned eu hunain.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyn y cyfarfod, gwyliodd y Pwyllgor fideo gan y llysgenhadon llesiant, a oedd wedi ymweld â’r Senedd yn ddiweddar. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fu unrhyw ddatblygiadau pellach ers mis Tachwedd 2019, ac yn benodol ynghylch a yw’r canllawiau gwrth-fwlio a’r fframwaith dull ysgol gyfan ar waith.

 


Cyfarfod: 05/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gomisiynnydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch P-05-924: Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd Llysgenhadon Lles Ysgol Dŵr y Felin i roi tystiolaeth bellach ar eu rôl, naill ai trwy gyfarfod â’r Pwyllgor neu ddarparu hyn ar ffilm.