Cyfarfodydd
Brexit Debate
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Brexit
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan
Senedd y DU.
2.
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o
dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i
gydsyniad maes o law.
Withdrawal Agreement Bill (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren
Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau
bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas
Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.
3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac
ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a
sefydliadau anllywodraethol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn
31 Hydref 2019.
5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael
cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.
Gwelliant 2 – Neil
McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at
Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol
Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r
Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn
nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o
dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i
gydsyniad maes o law.
Bil
y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau
bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas
Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.
3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac
ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a
sefydliadau anllywodraethol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn
31 Hydref 2019.
5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael
cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
5 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at
Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
1 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
NNDM7170
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi
ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.
Bil
y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.