Cyfarfodydd

P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn yr eglurder pellach ynghylch amserlen y gwaith i wella mynediad i orsaf drenau Trefforest – sydd i ddechrau ym mis Medi – a bodlonrwydd y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu unwaith yn rhagor at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i groesawu’r cadarnhad bod bwriad i wneud gwelliannau i gael mynediad yng ngorsaf Trefforest, a gofyn pryd mae’n disgwyl i’r rhain gael eu cwblhau, a beth yw’r dewisiadau sydd ar gael i deithwyr anabl yn y cyfamser.