Cyfarfodydd
NDM7167 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynd i'r Aael â Digartrefedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynd i'r Afael â Digartrefedd
NDM7167 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw polisïau
cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn
sy'n ofynnol.
2. Yn cymeradwyo'r
arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp
Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi:
a) bod 25 o farwolaethau
wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig
o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;
b) bod 25,937 o bobl
wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter
Cymru;
c) bod nifer y bobl sy'n
cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n
cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl
ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;
4. Yn nodi ymhellach
gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â
digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â
phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn
ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Y
Ceidwadwyr Cymreig – Mwy na Lloches yn Unig
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r
arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae
cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.
Grŵp
Gweithredu ar Ddigartrefedd: Adroddiad Hydref 2019
Strategaeth
ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 - 7 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod methiant
holl Lywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng
Nghymru yn warth cenedlaethol.
Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod dyblygu
gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â
thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd
eisoes yn wael yn waeth.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3:
'Mae'r tueddiadau hyn
wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau
ymysg y rhai sy'n cysgu ar y stryd. '
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 4 a 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod
toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn
digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.
Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na chafodd
angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd
gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu
bod hwn yn gyfle a gollwyd.
Gwelliant 10 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd
sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol
i'w feysydd cyfrifoldeb.
Crisis
- Everybody In - How to End Homelessness in Great Britain 2018 (Saesneg yn
unig)
Gwelliant 11 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Sicrhau bod Deddf
Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr
heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu
allan a chardota.
Gwelliant 12 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Gwelliant 13 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i
dynnu pobl oddi ar y strydoedd.
Gwelliant 14 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.
Gwelliant 15 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario
yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.34
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7167 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a
chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.
2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu
sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi:
a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru
yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;
b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn
ôl ffigurau gan Shelter Cymru;
c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng
2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant
cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol
Heriot-Watt;
4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i
fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol
rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag
at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
1 |
35 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r arfer
da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae cyni
a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
22 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1, wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliannau 2 - 6 eu dad-ddethol
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod toriadau
Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd,
fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
3 |
8 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na chafodd
angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol
i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn
gyfle a gollwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y
DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd
sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol
i'w feysydd cyfrifoldeb.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 10:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
8 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 11:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
2 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 12:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i
dynnu pobl oddi ar y strydoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 13:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 13.
Gwelliant 14 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 14:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
42 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 14.
Gwelliant 15 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y
sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 15:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
42 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 15.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7167 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r arfer
da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae cyni
a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.
6. Yn cydnabod bod
toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn
digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar
ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n
berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb.
8. Sicrhau bod Deddf
Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr
heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu
allan a chardota.
9. Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
8 |
11 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.