Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Senedd 2020-21
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y sesiwn graffu
ym mis Hydref.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2020-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am
sefyllfa ariannol 2020-21 a’r argymhelliad ar gyfer cyllideb atodol mewn
perthynas â’r cyfrifiad costau cyllid pensiwn IAS19 canol y flwyddyn (£0.4
miliwn) a chynnydd disgwyliedig yn y ddarpariaeth gwyliau blynyddol a gronnwyd
(£1.3 miliwn).
Cytunodd y Comisiynwyr
i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yn nhrydydd cynnig cyllideb Llywodraeth
Cymru. Cytunwyd ar y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig a’r llythyr at y
Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN9 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Meddalwedd Deddfwriaeth - 7 Gorffennaf 2020
Dogfennau ategol: