Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Senedd 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref.


Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2020-21 a’r argymhelliad ar gyfer cyllideb atodol mewn perthynas â’r cyfrifiad costau cyllid pensiwn IAS19 canol y flwyddyn (£0.4 miliwn) a chynnydd disgwyliedig yn y ddarpariaeth gwyliau blynyddol a gronnwyd (£1.3 miliwn).

Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yn nhrydydd cynnig cyllideb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd ar y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN9 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Meddalwedd Deddfwriaeth - 7 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol: