Cyfarfodydd

P-05-916 Adequate funding to protect the welfare of farm animals in Welsh slaughterhouses

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadl.

 

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Ymateb Llywodraeth Cymru - P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y ddeiseb hon mewn adroddiad ar ddeiseb P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai.

 

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am gadarnhad o lefelau'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'u  darparu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2019/20, ac ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf, er mwyn goruchwylio’r rheolaethau llesiant mewn lladd-dai yng Nghymru; a

·         diwygio'r adroddiad ar ddeiseb P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai i sicrhau ei fod hefyd yn cwmpasu'r ddeiseb hon a'r wybodaeth newydd a dderbynnir, ac i drafod drafft pellach o'r adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.