Cyfarfodydd

P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddatblygu gwasanaethau thrombectomi mecanyddol ymhellach, gan gynnwys datblygu gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac ehangu argaeledd gwasanaethau eraill i sicrhau eu bod ar gael 24/7.

 

Gan fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gyflawni’r camau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion ynghylch:

·         datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer thrombectomi;

·         yr amserlenni ar gyfer cynnal ymarfer ymgynghori ar hyn; a’r

·         camau nesaf a ragwelir yn dilyn yr ymgynghoriad.