Cyfarfodydd

P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r wybodaeth bellach a gafwyd a nodi'r ffaith bod cais cynllunio bellach yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio. O ystyried y broses gynllunio ffurfiol ar gyfer ystyried ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd ar yr adeg hon. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i:

·         gael eglurhad gan y datblygwyr ynghylch nifer bosibl y wagenni fydd yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r safle, capasiti’r ffwrnais ac allyriadau posibl y safle; a

·         nodi bod ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar y gweill a bod disgwyl i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno yn nhymor yr hydref ac i gadw golwg ar y datblygiadau ar hyn o bryd.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Bio-Bŵer Môr Hafren i ofyn am wybodaeth am y broses o ddatblygur cynlluniau drafft ar gyfer y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys amserlenni ac unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith pellach i ymgysylltu neu ymgynghori â’r cyhoedd;

·         ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn a yw parhau â’r broses o losgi gwastraff yn cyd-fynd â’r datganiad o argyfwng hinsawdd a strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru.